P-05-1144 Ailagor canolfannau garddio yng Nghymru cyn gynted â phosibl
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nicola Pugh, ar ôl casglu cyfanswm o 11,217 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Dylid ailagor canolfannau garddio yng Nghymru cyn gynted â phosibl:
- Mae garddio’n cadw pobl gartref
- Mae garddio’n llesol iawn i’r meddwl a’r corff
- Mae canolfannau garddio’n fannau mawr sydd â llawer o awyr iach, ac mae ganddynt fesurau diogelwch rhagorol
- Ni ellir diffodd y gadwyn gyflenwi planhigion, a’i throi ymlaen eto. Mewn llawer o achosion, mae planhigion yn cael eu gwastraffu os na allant gyrraedd canolfannau garddio
- Nid siopa ar-lein, clicio a chasglu a danfon i’r cartref yw’r ateb. Mae hyn yn arbennig o anodd ar gyfer canolfannau garddio annibynnol.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gogledd Caerdydd
· Canol De Cymru